Edrych yn ôl ar ein blwyddyn (rhan 1)
Rhan un o recap am ein gweithgaredd yn ystod 2015. Diolch o galon i bawb sydd wedi gwrando ar ein podlediadau, darllen ein blogiau ac wedi ein hannog i ddal ati trwy eich sylwadau caredig. Blwyddyn Newydd Dda!
Dechreuom y flwyddyn gan ddewis ein timau Cymru gorau posib o’r 30 mlynedd diwethaf. oedd Neville Southall ac Ian Rush yn ddewisiadau unfrydol. Cafodd Gary Speed ei ddewis yng nghanol y cae gan Russell, Leon a Daniel, ac fel wing back gan Gareth a Hywel. Yr unig ddewis unfrydol arall oedd Gareth Bale, ond fel Speed, mewn safleoedd gwahanol. Ni chafodd Aaron Ramsey ei ddewis gan Gareth, ond fe’i dewiswyd gan bawb arall. Felly hefyd Ashley Williams, a oedd yn angor i amddiffyn pawb oni bai am Russell – a oedd am gael Kevin Ratcliffe a Danny Gabbidon yng nghanol ei linell gefn ef.
Efallai bod hi’n dipyn o syndod mai dim ond mewn tri o’r pum tîm Cymreig y dewiswyd Mark Hughes, Craig Bellamy – a Ryan Giggs hyd yn oed! Yn nhrafodaeth y podlediad #7 roedd Russell yn llawn hiraeth am Jason Koumas; i ddweud y gwir nid dyma’r unig dro i’n tîm ni gweld eisiau’r maestro amherffaith yn ystod 2015.
Ar gyfer podlediad #8 ym mis Mawrth siaradom ni trwy Skype â Raphael Gellar, dyn a wnaeth sawl ffrind ymhlith cefnogwyr Cymru yn ystod y flwyddyn. Roedd hyder Gellar cyn y gêm yn Haifa yn uchel; yn wir roedd e’n disgwyl i Israel barhau gyda’u dechrau perffaith i’w hymgyrch. Pan edrychom ni ymlaen at y gêm ei hun ym mhodlediad #9 roedd ein hyder ni yn fwy pwyllog. Hefyd trafodom ni’r si ynghylch gêm gyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon a’i rhinweddau posib cyn chwarae Gwlad Belg; a Thîm GB, a gododd ei ben annifyr yn 2015 oherwydd Gemau Olympaidd Rio 2016.
Roedd podlediad #10 yn gyfle i ni drafod gyda Raphael Gellar unwaith yn rhagor. Roeddem ni’n fawrfrydig, ond ymddengys bod Gellar mewn sioc o hyd ar ôl y gorchfygiad 0-3, beth bynnag roedd e’n feirniadol iawn o reolwr Israel Eli Guttman. Ym mhodlediad #11 synfyfyriom ni ar y canlyniad anhygoel yna eto.
Roedd blog cyntaf 2015 gan Russell yn astudio’r chwaraewyr nad sydd wedi ennill cap er iddynt cael eu dewis gan Gymru. Trwy hynny cawsom y cyfle i ailadnabod chwaraewyr megis Ryan Doble, Eifion Williams, Kurt Nogan ac – hyd yn hyn – Owain Fôn Williams.
Ym mis Ebrill, blogiodd Hywel am bwysicrwydd rhaglenni yn ei brofiadau plentyndod ef o gemau; adolygydd Russell gyrfa Robert Earnshaw dros Gymru wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad rhyngwladol; ac ar ‘benblwydd’ gôl Mark Hughes yna yn 30, rhannodd Leon ei atgofion o weld y gôl ar ei ymweliad cyntaf erioed i gêm Cymru.
Creodd y penblwydd yna drafodaethau am le gôl Sparky yn y pantheon o golau gorau Cymru; felly detholwyd rhestrau penodol gan Hywel, Russell, Gareth a Leon er mwyn eu cydgrynhoi i ffurfio pymtheg gôl gorau Cymru.
Ym mis Mai, gostyngodd Tranmere Rovers allan o’r Cynghrair Pêl-droed. Fel arfer, ni ddylai hyn fod o unrhyw ddiddordeb mawr tu hwnt i Benbedw. Fodd bynnag, gan fod Jason Koumas, a enillodd 34 o gapiau dros Gymru, wedi dod i ben a’i “ymddeoliad” dau dymor ynghynt er mwyn ail-ymuno â Tranmere – ei glwb cyntaf – roedd hyn yn llwyfan a rheswm digonolam flog Leon amdano.
Ym mhodlediad #12 gwnaethom droi ein sylw at y gêm fawr yng Ngwlad Belg ym mis Mehefin, a’i dilynwyd gan drafodaeth gyda’r newyddiadurwr o Wlad Belg John Chapman. Yn ‘frechdan’ rhwng y podlediadau hyn oedd blog gan Russell a gafodd ei ysbrydoli gan gap hanner ganfed Ashley Williams yn erbyn Israel, a fynte wedi methu dim ond saith gêm yn y gyfamser.
Yn ôl sylwadau Chapman ym mhodlediad #13 y disgwyl ymysg cyfryngis Gwlad Belg oedd “i ennill ac ennill yn fawr”, felly roedd ei sylwadau ar twitter yn ystod y gêm yn ddarllen diddorol ac yn cydnabod buddugoliaeth haeddiannol gan Gymru.
Wrth i Ffrainc agosáu, roedd y diddordeb yn ein tîm cenedlaethol ar ei uchaf ers blynyddoedd. Anogwyd:
- Leon i holi a oedd pêl-droed rhyngwladol Cymreig ar fin adennill ei boblffrwd;
- Rich i ddadlau, serch hynny, na ddylai Cymru cael ei themtio i ddychwelyd i Stadiwm y Mileniwm;
- a Hywel i ddadlau bod hi’n hen bryd i Chris Coleman derbyn ei gyfran deg o ganmoliaeth a chlod am lwyddiant Cymru.
Yn olaf, ym mhodlediad #14 ymhyfrydom ni yn y ffuddugoliaeth dros Wlad Belg ac ystyried pryd fyddai Cymru’n sicr o gyrraedd Ewro 2016!