Diolch i Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yng Nghymru am Gefnogaeth Covid gyda Thocynnau Pêl-droed Am Ddim
Ymgyrch Penwythnosau Pêl-droed y Loteri Genedlaethol i Ddathlu Clybiau Pêl-droed Lleol a Chymunedau
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ledled Cymru yn cael y cyfle i wylio eu timau pêl-droed lleol am ddim fel arwydd o ddiolch am fwy na £12.5 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol a helpodd y clybiau cymunedol hyn i oroesi pan darodd pandemig Covid a phan fu’n rhaid i bêl-droed ar y lefel hon gau i lawr i bob pwrpas.
Bydd ymgyrch Penwythnosau Pêl-droed y Loteri Genedlaethol ar draws y pedair gwlad gartref yn sicrhau bod mwy na 100,000 o docynnau ar gael ar sail ‘Prynu Un Cael Un Am Ddim’ i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer gemau dethol dros dri phenwythnos ym misoedd Mawrth ac Ebrill, gan gynnwys ar gyfer gemau yn Uwch Gynghrair Cymru JD a chynghreiriau Cymru Gogledd a De JD. Y nod yw cael pobl allan i wylio a chefnogi eu tîm lleol, am y tro cyntaf efallai, a phrofi’r rôl hanfodol mae’r clybiau hyn yn ei chwarae fel rhan o’u cymuned leol.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn ystod anterth argyfwng Covid, sicrhawyd bod pecyn cefnogi o fwy na £12.5 miliwn ar gael gan y Loteri Genedlaethol a bu’n hanfodol i lawer o glybiau lleol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i oroesi’r golled o refeniw diwrnod gêm hanfodol wrth i bêl-droed gau. Ers hynny mae’r torfeydd wedi dychwelyd i bêl-droed ar y lefel hon mewn niferoedd enfawr wrth i bobl gydnabod pwysigrwydd eu clwb pêl-droed lleol i’w cymuned leol.
Nod Penwythnosau Pêl-droed y Loteri Genedlaethol yw diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am gamu i’r adwy pan oedd eu hangen fwyaf. Bydd y cynnig arbennig ‘Prynu Un Cael Un Am Ddim’ gyda’r tocynnau ar gael i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer gêm yn un o’r 231 o glybiau sy’n cymryd rhan yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.* Bydd y cynnig yn berthnasol i un gêm gartref ar gyfer pob clwb, a gynhelir rhwng 19eg Mawrth ac 16eg Ebrill
The campaign will be delivered in partnership with each of home associations and the National League, and is also backed by well-known ex-footballers Ally McCoist and Karen Carney.
Bydd yr ymgyrch yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â phob gymdeithas cartrefol a’r Gynghrair Genedlaethol, ac mae hefyd yn cael ei chefnogi gan gyn bêl-droedwyr adnabyddus, Ally McCoist a Karen Carney.
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr CBDC:
“National Lottery players have a vital role in supporting our national game, especially at domestic and grassroots level. Local football is the very heartbeat of our national game and our communities and this connection between clubs and their local communities needs to be celebrated. So many of our players at the top end of the game would not be where they are today without them. I urge everyone to get out and support their local side and there is no better time to do it than now.”
Dywedodd Ally McCoist, cyn Chwaraewr Pêl-droed rhyngwladol dros yr Alban a Llysgennad ar ran Penwythnosau Pêl-droed y Loteri Genedlaethol:
“In nearly every corner of the country you will find a football club which does much more than just kick a ball around on a Saturday afternoon. These clubs make a difference to so many in their community and they suffered perhaps more than any other part of our game during the pandemic. The support of National Lottery players has been crucial in helping them survive and now you can support them again, but this time from the terraces.”
I gael gwybod mwy am Benwythnosau Pêl-droed y Loteri Genedlaethol ac i ddod o hyd i’ch gêm agosaf ewch i www.thenationallotteryfootballweekends.co.uk.
Bydd pob clwb yn gyfrifol am ddosbarthu tocynnau ar gyfer ei gêm gartref a bydd manylion am sut i hawlio ar gael gan bob clwb. Mae telerau ac amodau yn berthnasol.
Daeth yr arian ar gyfer yr ymgyrch hon, yn ogystal â’r mentrau gyda’r amrywiol gymdeithasau a chynghreiriau pêl-droed ledled y DU yn ystod Covid, o gronfa hyrwyddo gan y Loteri Genedlaethol. Nid yw wedi cael ei hariannu gan arian sydd wedi’i ddyrannu ar gyfer Achosion Da y Loteri Genedlaethol na Camelot.
Mae’r Loteri Genedlaethol hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Diwrnod Di-Gynghrair, ymgyrch a sefydlwyd yn 2010 i annog cefnogwyr clybiau sy’n chwarae ar lefelau uchaf y gêm i gefnogi eu clwb lleol neu ddi-gynghrair llai a blasu profiad unigryw diwrnod gêm bêl-droed ar lefel leol
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi chwarae rhan hanfodol bob amser wrth gefnogi chwaraeon elitaidd, cymunedol a llawr gwlad yn y DU. Gan gynnwys pêl-droed, mae’r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi mwy na £5.7 biliwn mewn chwaraeon ar lawr gwlad ers ei sefydlu yn 1994. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rhoddwyd bron i £395 miliwn i achosion da chwaraeon llawr gwlad ac elitaidd, gan ariannu popeth o gyfleusterau i feysydd chwarae a chreu cyfleoedd i bawb fod yn actif a gwella eu bywydau drwy chwaraeon. Mae cyfleoedd eraill i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ystod mis Mawrth. Cynhelir Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol rhwng 19eg a 27ain Mawrth i ddweud diolch am y mwy na £30 miliwn sy’n cael ei godi bob wythnos gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae’r Wythnos Agored yn cynnig mynediad am ddim a gostyngiadau unigryw i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mewn amrywiaeth o leoliadau sy’n cymryd rhan, gan gynnwys orielau, amgueddfeydd, gerddi, cestyll hanesyddol a stadia chwaraeon. Mae Telerau ac Amodau llawn yn berthnasol ac ar gael yn www.nationallotteryopenweek.com
* Mae’r clybiau sy’n cymryd rhan yn y cynghreiriau canlynol:
Cymru- Uwch Gynghrair Cymru JD, Cymru JD Gogledd a Chymru JD De.
Yr Alban – Cynghrair yr Ucheldiroedd, Cynghrair yr Iseldiroedd, Uwch Adran Dwyrain yr Alban, Uwch Adran Gorllewin yr Alban a Chynghrair De’r Alban
Gogledd Iwerddon – Uwch Gynghrair Banc Danske, Pencampwriaeth Lough 41 a Chynghrair Ganolraddol Lough
Lloegr – Cynghrair Genedlaethol Vanarama Cynghrair Genedlaethol Vanarama Gogledd a Chynghrair Genedlaethol Vanarama De