Edrych yn ôl ar ein blwyddyn (rhan 2)
Rhan dau o recap am ein gweithgaredd yn ystod 2015:
Diolch o galon i bawb sydd wedi gwrando ar ein podlediadau, darllen ein blogiau ac wedi ein hannog i ddal ati trwy eich sylwadau caredig.
Wrth i’r tymor ddod i ben, roedd Cymru ar frig Grŵp B, ymhlith y prif ddetholion ar gyfer y grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd ac wedi saethu i’r 10 gorau yn rhestr dethol FIFA o holl dimau’r byd.
The latest FIFA World Rankings place #Wales in the Top 10. Reaction here: http://t.co/6ceaNqz7AQ #TogetherStronger pic.twitter.com/bSsFlMQqdF
— Wales (@FAWales) July 9, 2015
Anwybyddwch honiadau taw Gareth Bale ar ei ben ei hun sy’n gyfrifol am hyn; gwydnwch a threfn amddiffynnol sydd yn sail i’r ymgyrch hyd yn hyn. Beth bynnag eich barn, nododd Russell ystod a chysondeb yr argaeledd amddiffynnol a fu ar gael i Chris Coleman mewn cymhariaeth â’r ymgyrch Brasil 2014.
Parhaom ni i lenwi gwagle pêl-droed yr haf gyda blogiau. Awgrymodd Leon a Russell rhestr darllen hafaidd am bêl-droed Cymreig – a’r rhai i’w hosgoi (SPOILER: disgrifiodd Leon Savage! fel “ self-obsessed memoirs of a charmless clown”!); synfyfyriodd Russell ar ymddeoliad arall; y tro ’ma Danny Gabbidon a deimlodd yr artaith o beidio â chyrraedd ei hanner ganfed cap; a blog cyntaf Gareth enillodd y nifer fwyaf o sylwadau o unrhyw un o’n blogiau pan anogodd cynwysoldeb ymhlith cefnogwyr Cymru ; i’r newydd ac i’r hen do – heb anghofio #HugaPlastic wrth gwrs (RHYBUDD: efallai bod yn cynnwys bonedau Cennin Pedr).
Agorwyd y tymor newydd gyda ni’n edrych ymlaen at gemau Cyprus ac Israel ac ymateb i’n grŵp ar gyfer Cwpan y Byd 2018. Unwaith eto cafwyd sgwrs gyda Raphael Gellar cyn ei groesawu ef ac Israel i Gymru. Mae’n ddigon teg i ddweud bod ein hyder ni erbyn hynny’n o uchel (er yn anffodus ni welwyd y “ton ar ôl ton o ymosodiadau” a ragwelodd Rich yn erbyn Israel gan eu bod yn fwyfwy pengaled) ac felly doedd Ffrainc heb ei sicrhau cyn recordio ein rhagflas o gemau Bosnia ac Andorra. Wedi i Gymru cyrraedd y nod o’r diwedd, croniclodd Leon yrfa Chris Coleman gan benderfynu bod yr ymgyrch wedi dod â rhywfaint o waredigaeth i reolwr diweddaraf Cymru. Dilynwyd hyn gan gysyniadau pwysig pellach: Russell yn dathlu dyrchafiad Joe Ledley i cwltiolaeth; ac mewn blog gan ein gwestai Jamie Thomas mae’n nodi yr eironi o lwyddiant yn Zenica, tref nid ymhell o le nadir rheolaeth Coleman tair flwyddyn yn gynt – Novi Sad.
Ym mhodlediad #19 croesawom ni westai arall, Huw Davies, i drafod y pwyntiau allweddol o’r ymgyrch (cymerwch ofal, fe geir yma rybudd o ddraenog!) a’r garfan a chyhoeddwyd i wynebu’r Iseldireodd ar gyfer gêm ragbarataol cyntaf Cymru cyn Ffrainc. Ymunodd Tom Bradshaw gyda ni am y tro cyntaf ac fe gafodd Leon y cyfle i groesawu ei gyd-Gymro o’r Amwythig!
Yn ei flog Dyma Dîm Cymwys ar gyfer Cymru mae Russell yn ystyried dimensiwn cyfochrog ble mae chwaraewyr megis Rob Jones, Ian Walker, arwr Cwpan y Byd Canada Paul James a – wotshowt – Ryan Shawcross yn gwisgo’r Ddraig Goch.
Darparodd cefnogwr Cymru Nathan Low gip arbennig ar hyfforddiant y garfan cyn gêm Yr Iseldiroedd…ac efallai awgrymodd yn gryf i’r Iseldiroedd y byddai Joe Allen yn cymryd ciciau cosb dros Gymru y noson honno.
Mae recordio pob podlediad yn hwyl ond roedd podlediad #20 yn hynod tu hwnt; yn fwyaf arbennig gan ein bod ni wedi croesawu Fez o’r Barry Horns. Fe ddaeth 2015 i ben gyda phodlediad #21 o Gareth, Hywel a Russell yn gwylio’n fyw wrth i grwpiau Ewro 2016 cael eu dethol.
Trafodaeth ag Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam bydd ein podlediad cyntaf yn 2016 am ei chasgliad pêl-droed Cymreig sydd heb ei ail; ar ôl hynny byddwn yn brasgamru tuag at Ffrainc…
Gwelwn ni ar yr Eurostar! Allez les Rouges!