Ble ydyn nhw yn awr? – Cymru o dan 21 5-1 Lwcsembourg o dan 21
Deng mlynedd yn ôl heddiw cynhalodd tîm Cymru o dan 21 Brian Flynn eu cyfatebwyr o Lwcsembourg ym Mharc y Scarlets yn Llanelli mewn gêm rhagbrofol ar gyfer Pencampwriaeth Ewropeiaidd 2011, gan recordio’u buddugoliaeth fwyaf erioed.
Mewn blogpost a ddelwyd yn wreiddiol ar Parallel Cymru, mae Matthew Jones yn bwrw ei olwg ar y tîm a’u gyrfaoedd ers hynny. Mae’r blogpost ar gael yn Saesneg yma [dolen].
Yn ôl Brian Flynn roedd Cymru wedi “chware’n well yn Lwcsembourg heb fedru sgorio” pedwar diwrnod yn gynt. Yn y gêm yn ôl agorodd y cefnwr de Neal Eardley y sgorio gyda chic o’r smotyn ar ôl trosedd ar Joe Allen. Ychwanegodd Jonathan Brown ail funud yn ddiweddarach. Naeth chwaraewr canol-y-cae Caerlŷr Andy King ei wneud yn 3-0 cyn i ymosodwr Reading Simon Church ychwanegu pedwerydd cyn hanner amser. Llwyddodd Lwcsembwrg cael gol yn ôl trwy ei eilydd Ben Polidori yn yr ail hanner cyn ochr Brian Flynn cael pumed trwy James Wilson. Dyma fanylion y gêm.
Dyma edrych ar sut y datblygodd gyrfaoedd y chwaraewyr:
Chris Maxwell
Cafodd y gôl-geidwad Maxwell ei alw mewn i garfan llawn Cymru yn ystod ei ymgyrch am Ewro 2016. O safbwynt clwb, gadawodd Wrecsam i ymuno â Fleeetwood Town yn 2012 ac arwyddo yn 2016 i Preston North End yn y Bencampwriaeth. Ar fenthyg i Charlton Athletic ar hyn o bryd.
Neil Taylor
Ymunodd y cefnwr chwith a aned yn Llanelwy Ddinas Abertawe o Wrecsam yn 2010. Ar ôl chwe thymor yn yr Uwch Gynghrair, ymunodd ag Aston Villa yn y Bencampwriaeth yn 2016. Roedd Taylor yn aelod annatod o ochr hŷn Cymru a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol o Ewro 2016. On ers hynny mae e wedi colli ei le yng ngharfannau Ryan Giggs.
Neal Eardley
Roedd Eardley, a anwyd yn Llandudno, eisoes yn chwaraewr rhyngwladol llawn cyn y gem yn erbyn Lwcsembwrg. Gwnaeth 16 o ymddangosiadau i’r ochr hŷn o 2007 tan 2011. Dechreuodd ei yrfa gyda Oldham Athletic cyn ymuno â Blackpool lle chwaraeodd ran lawn yn ei thymor yn Uwchgyngrair Lloegr yn 2010-11. Ymunodd â Birmingham City yn 2013 lle difethaodd anafiadau ei yrfa; fe nwaeth e 34 ymddangosiad yn unig mewn pedwar tymor. Ar hyn o bryd mae e’n ail-adeiladu ei yrfa gyda Lincoln City, gyda phwy ennilodd e’r tlws EFL yn 2018.
Rhys Williams
Y bradwr. Ar ôl gwneud deg ymddangosiad ar gyfer ochr dan-21 Cymru, dewisodd chwarae i Awstralia. Cafodd ei alw i fyny i garfan llawn Cymru ond nid oedd gan y rheolwr John Toshack y wybodaeth dactegol i’w gapio. Naeth ymddangos i Awstralia yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd lle cafodd ei ffynnu gan y cefnogwyr cartref. Yn awr mae e’n chwarae yn Saudi Arabia.
Aaron Morris
Ymunodd â Dinas Caerdydd fel chwaraewr ieuenctid. Chwaraeodd ei gem gyntaf yng Nghwpan Uwch CPC yn erbyn Tref y Trallwng. Chwaraeodd yn ddiweddarach i ochrau fel Aldershot Town a Gillingham. Gallai Morris chwarae yn yr amddiffyn neu canol-y-cae. Y gem yn erbyn Lwcsembwrg oedd ei gyntaf o wyth ymddangosiad i Gymru dan-21.
Andy King
Yn 2016, King oedd y bedwerydd Cymro i ennill yr Uwch Gynghrair yn Lloegr. Cyn hynny enillodd y Bencampwriaeth yn 2014 a Chynghrair Un yn 2009. Ef oedd Chwaraewr y Flwyddyn Caerlŷr yn 2010 a 2011, ac sgorio’r mwyafrif o goliau fel chwaraewr canol-y-cae i Gaerlŷr. Sgoriodd drydedd gôl Cymru dan-21 yn erbyn Lwcsembwrg ac yn eironig fe sgoriodd ei gol rhyngwladol llawn gyntaf yn erbyn yr un wlad, yn yr un lleoliad, a hefyd naeth y gem orffen hefo’r un sgôr flwyddyn yn ddiweddarach.
Jonathan Brown
Mae gyrfa Brown, a chafodd ei eni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi ei weld yn clocio i fyny’r milltiroedd awyr. Dechreuodd gyda Dinas Caerdydd cyn chwarae mewn gwledydd fel Awstralia, Gwlad Thai, Bangladesh ac yn yr UDA. Yn 2016, enillodd Uwch Gynghrair Bangladesh gyda Abahani Limited Dhaka.
Shaun MacDonald
Cynnyrch o Ddinas Abertawe. Naeth 25 ymddangosiadau i Gymru o dan 21 oed. Roedd yn sioc amser naeth o ennill ei gap hŷn gyntaf yn erbyn y Swistir yn 2010. Gwnaeth ymddangosiad yn fideo Manic Street Preachers ar gyfer cân swyddogol Ewro 2016, Together Stronger (C’mon Wales) a dangos nad yw pob un sydd yn dda yn chwaraeon yn gallu edrych yn naturiol yn neidio i fyny ac i lawr. Enillodd y Bencampwriaeth yn Lloegr gyda Bournemouth yn 2015 ond roedd yr Uwch Gynghrair yn gam rhy bell ac fe ddychwelodd i’r Bencampwriaeth gyda Wigan Athletic yn 2016.
Joe Allen
Bydd yn mynd i lawr yn hanes fel un o’r Cymry mwyaf erioed. Fe oedd Pêl-droediwr y Flwyddyn yng Nghymru yn 2012 ac yn 2016, cafodd ei ddewis ar gyfer Tîm Pencampwriaeth Ewro 2016. Roedd yn aelod hanfodol o dîm Dinas Abertawe a enillodd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2011 cyn trosglwyddo i Lerpwl am £ 15 miliwn y flwyddyn yn ddiweddarach. Ymunodd â Stoke City am fargen o £ 13 miliwn yn 2016. Mae cymeriadau chwedlonol eraill gyda sgiliau a gweledigaeth megis Xavi Sbaen ac Andrea Pirlo yr Eidal wedi’u cymharu fel fersiynau ‘gwael-ddyn’ o Allen.
Mark Bradley
Wedi chwarae ei yrfa clwb ar gyfer Walsall a Rotherham United. Gwnaeth Bradley un ymddangosiad i Gymru ym mis Mai 2010 yn erbyn Croatia fel eilydd yn y 57 munud ar gyfer Brian Stock. Cafodd ei yrfa chwarae ei dorri’n fyr oherwydd anafiadau ond dychwelodd i Walsall yn 2017 fel hyfforddwr cryfder a chyflyru.
Simon Church
Sgoriodd wyth gôl yn 15 ymddangosiad i Gymru o dan 21. Enillodd y cyntaf o 38 o gapiau hŷn ddau fis ar ôl i’r gem yn erbyn Lwcsembwrg dan 21. Sgoriodd yr ymosodwr dair gôl ryngwladol uwch ac roedd yn aelod o garfan Ewro 2016 Cymru. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa gyda Reading ond hefyd chwaraeodd i glybiau fel Charlton Athletic, Aberdeen a Roda JC Kerkrade. Yn dilyn ei ymddeoliad o bêl-droed yn 2018, mae wedi sefydlu busnes sy’n darparu cyngor buddsoddi i athletwyr proffesiynol.
Eilyddion a ddefnyddiwyd:
Joe Partington
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i dîm dan 21 Cymru fel eilydd yn y 46 munud yn lle Andy King, y cyntaf o wyth ymddangosiad. Gwnaeth yr amddiffynnwr dros 50 o ymddangosiadau ar gyfer Bournemouth cyn ymuno a Eastleigh yn 2015. Ymunodd â Bristol Rovers ym mis Ionawr 2017.
James Wilson
Daeth yr amddiffynnwr o Bristol City ymlaen i Rhys Williams yn y 56 munud. Enillodd dri chap dan 21 oed cyn gwneud ei ymddangosiad hun gyntaf yn erbyn Gwlad Belg yn 2013, ei unig cap hyd yn hyn. Gadawodd The Robins yn 2014 i ymuno â Oldham Athletic lle naeth dros ganrif o ymddangosiadau cynghrair. Ymunodd â Sheffield United yn 2016 yna Lincoln City yn 2017. Tra ar fenthyg yn Brentford, enillodd deitl Ail Gyngrair Lloegr yn 2008-09.
Nathan Craig
Eilydd olaf Brian Flynn. Daeth Craig ar y cae am Joe Allen yn y 62 munud. Dychwelodd y cynnyrch o Everton yw glwb tref gartref Tref Caernarfon yn 2011. Ar ôl tymor yng Ngogledd Cymru symudodd i Torquay United. Dychwelodd i The Oval yn 2014.
Eilyddion na chafodd ei defnyddio:
Grant Basey
Cynnyrch o academi Charlton Athletic. Naeth dros 50 o ymddangosiadau i’r Addicks cyn i reolwr y clwb Phil Parkinson ei ryddhau yn 2010 er mwyn cael yr arian i ddod ag ymosodwr i mewn. Stopiodd chwarae’n broffesiynol yn 24 oed oherwydd difrod yn y pen-glin, ond aeth ymlaen i chwarae pêl-droed lled-broffesiynolnad ar gyfer clybiau megis Ebbsfleet United a Cray Wanderers. Dychwelodd i Charlton fel hyfforddwr ar gyfer rhai o’r timau iau ac yn 2018 daeth yn kitman y clwb.
Jake Taylor
Dechreuodd Taylor ei yrfa yn y system ieuenctid gyda Reading. Roedd ar y llyfrau gyda The Royals hyd 2016 cyn arwyddo i Exeter City. Ennillodd ei unig cap fel eilydd yn yr 84 munud yn lle Hal Robson-Kanu mewn buddugoliaeth 2-1 dros Cyprus yn 2014.
Jonathan North
Gadawodd y golwr Watford yn 2009 i ymuno â Wealdstone. Gyda thros 300 o gemau o dan ei wregys fe lofnododd estyniad cytundeb gyda’r clwb yn 2018. Wedi dod yn newyddiadurwr, yn 2015 dychwelodd i Ffordd Vicarage fel swyddog cyfathrebu, swydd y mae’n cydbwyso â’i yrfa bêl-droed lled-broffesiynol.
Lloyd James
Gwnaeth James 10 ymddangosiad i dîm dan 21 Cymru. Dechreuodd ei yrfa gyda Southampton fel amddiffynnwr neu chwaraewr canol y cae, ac yna symudodd ymlaen i glybiau gan gynnwys Leyton Orient a Exeter City. Yn 2018, arwyddodd i Forest Green Rovers.